Cartref > Polisi Preifatrwydd
Polisi Preifatrwydd
Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri, felly fe'ch anogwn i ddarllen y datganiad yma yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch:
- Pwy ydym ni
- Pa wybodaeth ydym yn casglu
- Sut a pham yr ydym yn casglu, yn storio ac yn rhannu gwybodaeth bersonol
- Eich hawliau yng nghyswllt eich gwybodaeth bersonol
- Sut i gysylltu â ni ac awdurdodau goruchwylio os oes gennych gŵyn
Pwy ydym ni
Mae Ysgol Y Garnedd yn gyfrifol am gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am ddisgyblion. Rydym yn gweithredu fel rheolydd data ac yn prosesu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data y DU, gan gynnwys Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
Gwybodaeth bersonol am ddisgyblion yr ydym yn ei chasglu a'i defnyddio:
Gallwn gasglu gwybodaeth megis:
- Manylion adnabod a chyswllt (enw, dyddiad geni, cyfeiriad, UPN, manylion rhieni a chysylltiadau brys)
- Gwybodaeth am nodweddion personol (ethnigrwydd, iaith, cenedligrwydd, cymhwysedd i brydau ysgol am ddim)
- Cofnodion presenoldeb, ymddygiad a chyrhaeddiad
- Gwybodaeth iechyd ac anghenion meddygol (yn cynnwys alergeddau, meddyginiaeth a gofynion dietegol)
- Gwybodaeth am Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cynnwys gwybodaeth mwy abl a thalentog
- Gwybodaeth ddiogelu lle bo'n briodol (gorchmynion llys, cyfranogiad personol ac adroddiadau y gwasanaethau cymdeithasol ac amddiffyn plant, gwybodaeth gefndir berthnasol am y teulu)
- Gwybodaeth ymddygiad (gwaharddiadau ac unrhyw darpariaethau sydd wedi’u rhoi mewn lle)
- Asesiad a chyrhaeddiad (canlyniadau profion statudol ac anstatudol, hanes addysgol, lefelau cyflawniad disgwyliedig, adroddiadau tymhorol a blynyddol)
- Amserlen a'r dosbarthiadau a fynychir (yn cynnwys gwersi offerynnau cerdd)
- Gwybodaeth prydau Ysgol y plentyn (taliadau a/neu patrwm)
- Delweddau ffotograffig a CCTV
- Manylion caniatâd ar gyfer teithiau, ffotograffau a gweithgareddau ysgol
- Gwybodaeth Fiofetrig (ôl bys – lle sydd yn berthnasol)
Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion er mwyn:
- Darparu addysg a chefnogaeth briodol i ddisgyblion
- Monitro cynnydd a chyrhaeddiad
- Sicrhau diogelwch a lles disgyblion
- Rheoli presenoldeb, ymddygiad a gofal bugeiliol
- Cyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol a statudol
- I gadw plant yn ddiogel (alergeddau bwyd, manylion cyswllt mewn argyfwng, delweddau TCC)
- I fodloni gofynion statudol ar gyfer defnydd gyda chasgliadau data, archwiliadau statudol a dibenion archwilio
Rydym yn defnyddio gwybodaeth fiofetrig i:
- Adnabod disgyblion yn ddiogel ac yn gywir wrth ddefnyddio'r system ddi-arian.
- Rheoli taliadau a defnydd o brydau ysgol yn effeithlon.
- Lleihau'r angen i ddisgyblion gario arian parod neu gardiau adnabod.
Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio. Dyma lle rydym yn gwneud penderfyniad yn awtomatig amdanoch chi heb ymyrraeth dynol.
Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i brosesu gwybodaeth am ddisgyblion yw:
- Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol y mae'r rheolydd data yn destun iddynt
- Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ddyletswyddau statudol.
- Mae prosesu gwybodaeth biometrig yn seiliedig ar ganiatâd a chaniatâd pendant (Gellir tynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg)
Yn ogystal, yn gysylltiedig ag unrhyw ddata categori arbennig
- Mae prosesu yn angenrheidiol am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol, ar sail cyfraith ddomestig neu gyfraith ryngwladol berthnasol.
Y rhwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth am ddisgyblion yw:
- Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 2011
- Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgyblion) (Cymru) 2011
- Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011
- Adroddiad Addysg (Adroddiad Pennaeth Rhieni ac Oedolion) (Cymru) 2011
- Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2012
- Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgol (Cymru) 2018
- Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
- Deddf Cydraddoldeb 2010
- Gorchymyn Rheoliadau (Diogelwch Tân) 2005/ Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005 (cwblheir ffurflenni PEEPS ac mae'r rhain yn cynnwys manylion unrhyw anableddau sydd gan blentyn / aelod o staff)
Casglu Gwybodaeth am Ddisgyblion
Rydym yn casglu gwybodaeth am ddisgyblion drwy ffurflenni cofrestru wrth i ddisgyblion ddechrau yn yr ysgol ac rydym yn derbyn peth data drwy Common Transfer File (CTF) os yw plentyn yn trosglwyddo atom o ysgol arall
Er bod y rhan fwyaf o wybodaeth am ddisgybl yr ydych yn ei darparu i ni yn hanfodol, bydd peth gwybodaeth yn cael ei darparu ar sail wirfoddol
Er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data, byddwn yn rhoi gwybod i chi p'un a fydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth benodol i ni am ddisgybl neu os oes gennych ddewis yn hyn.
Os darperir gwybodaeth i ni ar sail wirfoddol, byddwn yn gofyn i chi roi caniatâd penodol ac yn rhoi'r opsiwn i chi dynnu'r caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
Storio Data am Ddisgyblion
Rydym yn cadw data am ddisgyblion yn ddiogel am gyfnodau penodol. Cedwir gwybodaeth yn unol a Polisi Diogelu Data a Chyfnodau Cadw yr ysgol. Am ragor o wybodaeth am ein cyfnodau cadw, gofynnwch am copi o’r polisi diogelu data gan Pennaeth yr Ysgol.
Cedwir gwybodaeth fiofetrig yn ddiogel, a dim ond at ddiben gweithredu'r system ddi-arian y caiff ei defnyddio. Pan fydd disgybl yn gadael yr ysgol neu pan gaiff caniatâd ei dynnu'n ôl, bydd y data biometrig yn cael ei ddileu yn unol â gweithdrefnau cadw a gwaredu'r ysgol.
Gyda phwy y gallwn rannu gwybodaeth?
Gallwn rannu gwybodaeth berthnasol am ddisgyblion gyda sefydliadau sy’n cefnogi addysg, lles, diogelwch a datblygiad disgyblion.
Gallwn hefyd rannu gwybodaeth gyda chwmnïau a darparwyr gwasanaethau sy’n gweithredu systemau ysgol, cyfathrebu, diogelu, taliadau, llwyfannau dysgu digidol a gwasanaethau gweinyddol ar ran yr ysgol.
Dim ond pan fo sail gyfreithiol, rhwymedigaeth statudol neu ganiatâd dilys yn bodoli y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu, dim ond wybodaeth sy'n angenrheidiol at y diben penodol a gaiff ei darparu.
Pam yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd
Rydym yn rhannu data am ddisgyblion gyda Llywodraeth Cymru ar sail statudol. Rydym angen rhannu data i bwrpasau cyllid ac i fonitro cyrhaeddiad addysgol.
Mae'n ofynnol i ni gasglu data dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2011 a Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011.
Mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth am ein disgyblion gyda'n Hawdurdod Lleol, Cyngor Gwynedd, a Llywodraeth Cymru dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2011
Cais i gael mynediad i'ch data personol
Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan rieni a disgyblion yr hawl i ofyn am fynediad i'r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanynt. Er mwyn gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol, neu ofyn am fynediad i gofnod addysgol eich plentyn, cysylltwch a’r Pennaeth;
Mrs Llinos Davies
Pennaeth
Ysgol y Garnedd
Pennaeth@garnedd.ysgoliongwynedd.cymru
Eich Hawliau:
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i:
- Gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol
- Gofyn am gywiro gwybodaeth anghywir
- Gofyn am gyfyngu ar brosesu mewn rhai amgylchiadau
- Gwrthwynebu prosesu mewn rhai amgylchiadau
- Gwneud cwyn os ydych yn anfodlon ar y ffordd rydym yn trin eich gwybodaeth
- Tynnu caniatâd yn ôl pan fo prosesu yn seiliedig ar ganiatâd
- Gwrthwynebu penderfyniadau a wneir drwy ddulliau awtomataidd
Os oes gennych bryder ynglŷn â'r modd yr ydym yn casglu neu'n defnyddio eich data personol, gofynnwn i chi godi eich pryder gyda ni i ddechrau. Os ydych yn anhapus efo’r ymateb, gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data Ysgolion SDDYsgolion@gwynedd.llyw.cymru neu’r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) drwy https://ico.org.uk/concerns
Gweithdrefn gwyno ynghylch cais gwrthrych am wybodaeth (SAR)
Rydym wedi ymrwymo i ymdrin â cheisiadau gwybodaeth mewn ffordd deg, dryloyw ac o fewn yr amserlenni statudol.
Os ydych yn anfodlon gyda:
- Y ffordd cafodd eich Cais ei drin
- Y wybodaeth a ddarparwyd
- Penderfyniad i wrthod datgelu gwybodaeth
- Oedi wrth ymateb i’ch cais; neu
- Unrhyw agwedd arall ar arferion diogelu data’r ysgol sy’n ymwneud â’ch cais
Gallwch cyflwyno cwyn i Pennaeth yr Ysgol/Swyddog Diogelu Data Ysgolion yn y lle cyntaf.
Os ydych yn anhapus efo ymateb yr ysgol neu'r Swyddog Diogelu Data mae gennych hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) drwy ymweld â www.ico.org.uk neu drwy ffonio 0303 123 1113
Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Bydd yr hysbysiad Preifatrwydd hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn gywir ac yn cydymffurfio â ddeddfwriaeth diogelu data felly, argymhellwn eich bod yn ailymweld â'r wybodaeth hon o bryd i'w gilydd.
Diweddarwyd y fersiwn hwn ddiwethaf ar 11.09.2026
Cyswllt
Os hoffech drafod unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch ag un o'r isod:
Pennaeth
Ysgol y Garnedd
Pennaeth@garnedd.ysgoliongwynedd.cymru
Swyddog Diogelu Data Ysgolion
SDDYsgolion@gwynedd.llyw.cymru