Croeso i wefan Ysgol y Garnedd

Mae ein hysgol yn gymuned hapus, ofalgar a Chymreig lle mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a’i annog i gyrraedd ei lawn botensial. Ymfalchïwn yn yr awyrgylch groesawgar sydd yma, ac yn y berthynas agos sy’n bodoli rhwng y disgyblion, y staff, y rhieni a’r gymuned ehangach.

Ein nod yw darparu addysg o’r radd flaenaf mewn amgylchedd diogel, ysgogol a chynhwysol. Rydym yn awyddus i feithrin dysgwyr hyderus, chwilfrydig ac uchelgeisiol sy’n barod i fentro, i gydweithio ac i wneud eu gorau ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.

Mae’r Gymraeg, ein Cymreictod a’n diwylliant lleol wrth wraidd ein gwaith. Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig addysg Gymraeg a dwyieithog o safon, gan sicrhau bod pob plentyn yn datblygu balchder yn yr iaith Gymraeg ac yn magu’r hyder i’w defnyddio’n naturiol o ddydd i ddydd.

Credwn yn gryf mai drwy gydweithio’n agos â rhieni a gofalwyr y gallwn sicrhau’r gorau i bob plentyn. Mae’r bartneriaeth rhwng y cartref a’r ysgol yn allweddol, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â chi er mwyn cefnogi datblygiad, hapusrwydd a llwyddiant eich plentyn.

Gobeithiwn y bydd y wefan hon yn rhoi blas i chi ar fywyd prysur a chyfoethog ein hysgol, ac yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol am ein gweledigaeth, ein gwerthoedd, ein trefniadau a’n gweithgareddau.

Diolch am ymweld â’n gwefan. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gymuned ein hysgol.

Prosbectws

Cân Y Garnedd

Ac mae'r haul yn codi beunydd dros y Garnedd,

yn bwrw'i wrid dros doeau llwyd y stryd.

Gyda'n gilydd cerddwn ninnau yn ei lewyrch,

yn ein chwarae, yn ein gwaith, yn wên i gyd.

Gan Plant y Garnedd

Ein Gwerthoedd

cog Creadigol Ysgol y Garnedd

Creadigol

cog Egwyddorol Ysgol y Garnedd

Egwyddorol

Gwerthoedd Ysgol y Garnedd

Ein Gwerthoedd

cog Iach Ysgol y Garnedd

Iach

cog uchelgeisiol Ysgol y Garnedd

Uchelgeisiol